Acts 26:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr awrhon ydd wy yn sefyll ac im cyhuddir am obaith yr adewit a wnaed y gan Ddew i ein tadae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau ni gan Dduw, yr wyf yn sefyll yn cael fy marnu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
(Hyd yn oed yn awr, oblegid gobaith yn yr addewid i’n tadau ni, a wnaed gan Dduw, yr wyf yn sefyll i’m barnu —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i'n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i'm barnu:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dw i ar brawf yma heddiw am fy mod i'n edrych ymlaen at weld yr hyn wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni yn dod yn wir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr yr wyf yn sefyll fy mhrawf ar gyfrif gobaith sydd wedi ei seilio ar yr addewid a wnaed gan Dduw i'n hynafiaid ni,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn awr am obaith yr Addewid a wnaed i'n Tadau gan Dduw yr wyf yn sefyll i' m barnu;