Acts 26:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
At pa addevvit ein dauddec llwyth yn gwasanaethy Dew eb dorr ddydd a’nos, a ’obeithant ðyvot: er mwyn pa ’obeith, a Vrenhin Agrippa im cyhuddir y gan yr Iuddaeon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i’r hwn addewid, ein deuddeg llwyth gyda thaerni, nos a dydd, yn gwasanaethu Duw, a obeithiant ddyfod; am yr hwn obaith y cyhuddir fi gan yr Iwddewon, O frenhin.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
addewid y mae ein deuddeg llwyth ni trwy wasnaethu yn ymroddgar nos a dydd yn gobeithio ei chyrraedd. Ac am y gobaith hwn yr achwynir arnaf, O frenin, gan Iddewon!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl Israel i gyd yn rhannu'r un gobaith — dyna pam maen nhw'n addoli Duw mor gydwybodol ddydd a nos. A'r gobaith yma ydy'r rheswm pam mae'r arweinwyr Iddewig wedi dod â cyhuddiad yn fy erbyn i, eich mawrhydi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, trwy addoli'n selog nos a dydd, yn gobeithio ei sylweddoli; ac am y gobaith hwn yr wyf yn cael fy nghyhuddo, O frenin, gan Iddewon!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i'r hon Addewid y mae ein Deuddeg‐Llwyth, gan wasanaethu Duw mewn dyfalwch nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am y gobaith hwn y'm cyhuddir gan Iuddewon, O Frenhin.