Acts 26:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Paam y tybir yn beth ancredadwy y genwch, bot y Ddew gyvody y meirw dragefyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Paham mai anghredadwy y bernir yn eich plith y bydd i Dduw gyfodi’r meirw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Paham y bernir yn anghredadwy gennych chwi fod Duw yn cyfodi’r meirw?)
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pam dych chi bobl yn ei chael hi mor anodd i gredu fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pam y bernir yn anghredadwy gennych chwi fod Duw yn codi'r meirw?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Paham y bernir yn anghredadwy yn eich plith chwi os yw Duw yn cyfodi y meirw?