Acts 27:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
GWedy daroedd yddynt gyt varny, y ni hwylio ir Ital, hwy a roðesant bob un Paul, a’rryw garcharorion ereil’ at Gānwriat aei enw Iulius o gatyrva Augustus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan benderfynwyd morio o honom ymaith i’r Ital, traddodasant Paul, a rhyw garcharorion eraill hefyd, i ganwriad a’i enw Iwlius, o fyddin Augustus.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan benderfynwyd ar hwylio ohonom i’r Eidal, rhoent Baul a rhai carcharorion eraill yng ngofal canwriad, a’i enw Iwlius, o’r fintai Ymerodrol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gytunwyd forio ohonom ymaith i'r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at ganwriad a'i enw Jwlius, o fyddin Augustus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n penderfynu ein bod i hwylio i'r Eidal. Cafodd Paul a nifer o garcharorion eraill eu rhoi yng ngofal swyddog milwrol o'r enw Jwlius — aelod o'r Gatrawd Ymerodrol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan benderfynwyd ein bod i hwylio i'r Eidal, trosglwyddwyd Paul a rhai carcharorion eraill i ofal canwriad o'r enw Jwlius, o'r fintai Ymerodrol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan benderfynwyd i ni hwylio ymaith i'r Ital, traddodasant Paul a rhai carcharorion eraill i Ganwriad o'r enw Julius, o fintai Augustaidd.