Acts 27:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt wrthynt, Ha‐ wyr, mi welaf y byð yr hynt hon gyd a sarhaed ac eniwed mawr, nid am y llwyth a’r llong yn vnic, anid am ein eneidiae hefyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
cynghorodd Paul, gan ddywedyd wrthynt, Dynion, gwelaf mai gyda sarhad a llawer o golled, nid yn unig i’r llwyth a’r llong, eithr i’n heinioes ni hefyd, y mae’r morio ar fedr bod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd wrthynt; “Wŷr, gwelaf fod difrod a mawr golled, nid yn unig i’r llwyth ac i’r llong ond i’n bywydau ni hefyd, i ganlyn y fordaith.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd wrthynt, Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhad a cholled fawr, nid yn unig am y llwyth a'r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gyfeillion, trychineb fydd pen draw'r fordaith yma os byddwn ni'n mynd yn ein blaenau. Byddwch chi'n colli'r llong â'i chargo, heb sôn am beryglu'n bywydau ni sy'n hwylio arni hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ddynion, 'rwy'n gweld y bydd mynd ymlaen 'r fordaith yma yn sicr o beri difrod a cholled enbyd, nid yn unig i'r llwyth ac i'r llong, ond i'n bywydau ni hefyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd wrthynt, O wyr, yr wyf yn gweled y bydd y fordaith gyda rhyfyg a llawer o golled, nid yn unig o'r llwyth a'r llong, eithr o'n bywydau ni hefyd.