Acts 27:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny y gyd mwy y credei y Cannwriat ir llywydraethwr a’r llong-lywydd na’ ar pethae y ddywed e sit gan Paul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gwrandawai’r canwriad yn hytrach ar y peilat a’r capten nag ar ddim a ddywedai Paul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong, yn fwy nag i'r pethau a ddywedid gan Paul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yn lle gwrando ar Paul, dyma Jwlius yn dilyn cyngor y peilot a chapten y llong.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd y canwriad yn rhoi mwy o goel ar y peilot a meistr y llong nag ar eiriau Paul.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y Canwriad a ddarbwyllwyd gan lywydd a pherchen y llong yn hytrach na chan y pethau a lefarwyd gan Paul.