Acts 27:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phryt nad oedd y porthladd yn aðas y ’ayafy yntho, llawer a gymersont yn ei cygor, voriaw o ddyno, a’s gallent mewn ryw vodd ddyvot hyd yn Phoinice a’ gayafy yno, yr hwn ’sy porthladd yn‐Candi, ac y’sydd ar gyfor Deau‐’orllewyn a’r Gogledd ’orllewin.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan mai anghyfleus i auafu oedd y porthladd, y rhan fwyaf a roisant gynghor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i auafu yno, yr hwn sydd borthladd yn Creta, yn edrych tua’r gogledd-ddwyrain a’r deheu-ddwyrain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan fod y porthladd yn anghymwys i aeafu ynddo, fe roes y rhan fwyaf farn dros hwylio oddiyno, i gyrraedd, os gallent rywfodd, Phoenix, a gaeafu yno — porthladd yng Nghrete yn edrych tua’r dehau-orllewin a’r gogledd-orllewin.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i aeafu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau‐orllewin, a'r gogledd‐orllewin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr Hafan Deg yn borthladd agored, a ddim yn addas iawn i aros yno dros y gaeaf. Felly dyma'r mwyafrif yn penderfynu mai ceisio hwylio yn ein blaenau oedd orau. Y gobaith oedd cyrraedd lle o'r enw Phenics ar ben gorllewinol yr ynys, ac aros yno dros y gaeaf. Roedd porthladd Phenics yn wynebu'r de-orllewin a'r gogledd-orllewin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan fod y porthladd yn anghymwys i fwrw'r gaeaf ynddo, yr oedd y rhan fwyaf o blaid hwylio oddi yno, yn y gobaith y gallent rywfodd gyrraedd Phenix, porthladd yn Creta yn wynebu'r deorllewin a'r gogledd-orllewin, a bwrw'r gaeaf yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan fod y porthladd yn anghyfleus er gauafu, y mwyrif a roisant gynghor i forio oddiyno, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phœnix, i auafu yno, porthladd yn Creta sydd yn edrych tua'r gogledd‐ddwyrain a'r deheu‐ddwyrain.