Acts 27:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ pan chwythawð awel vach o ddeheuwynt, wyntwy yn tybieit caffaei pwrpos, a ddatdodesont i Asson, ac a hwyliasont eb law Candi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan chwythodd y deheu-wynt yn araf, gan feddwl y cawsent eu hamcan, wedi codi’r angorau, moriasant heibio yn agos i Creta.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan araf chwythodd deheuwynt, tybiasant iddynt gael eu hamcan, â chodasant angor a chadw gyda thir Crete, yn agos i’r lan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan chwythodd y deheuwynt yn araf, hwynt‐hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau, a foriasant heibio yn agos i Creta.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddechreuodd awel ysgafn chwythu o gyfeiriad y de, roedden nhw'n meddwl y byddai popeth yn iawn; felly dyma godi angor a dechrau hwylio ar hyd arfordir Creta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gododd gwynt ysgafn o'r de, tybiasant fod eu bwriad o fewn eu cyrraedd. Codasant angor, a dechrau hwylio gyda glannau Creta, yn agos i'r tir.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan chwythodd y deheu‐wynt yn fwynaidd, a hwy yn tybied eu bod wedi enill eu hamcan, wedi codi, yr angor, moriasant yn mlaen yn agosach i Creta.