Acts 27:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr cyn pen ne‐mawr o amser, e gyvodes yn ei hemyl rhyvelwynt y elwir Euroclydon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar ol nid llawer o amser y curodd i lawr oddi wrthi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Eur-acwilo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond cyn hir fe ruthrodd i lawr o’r tir wynt tymhestlog, a elwir Ewracwilo;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yn sydyn dyma gorwynt cryf (sef yr Ewraculon) yn chwythu i lawr dros yr ynys o'r gogledd-ddwyrain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cyn hir, rhuthrodd gwynt tymhestlog, Ewraculon fel y'i gelwir, i lawr o'r tir.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond nid ar ol llawer o amser curodd i lawr oddiwrthi wynt tymhestlog yr hwn a elwir Euracwilo.