Acts 27:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan attelit y llong, ac na allai wrthladd y gwynt, ni adawsam yddi borthi yr mor, ac in arweddwyt ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r llong wedi ei chipio, ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt, ymroisom iddo a dygpwyd ni ganddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
cipiwyd y llong, a chan na allai ddal yng ngwrthwyneb i’r gwynt, ildio a wnaethom, a gyrru o’i flaen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gipiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu'r gwynt, ni a ymroesom, ac a ddygwyd gyda'r gwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd y llong ei dal yn y storm. Roedd hi'n amhosib hwylio yn erbyn y gwynt, felly dyma roi i fyny a cawson ni ein cario i ffwrdd ganddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cipiwyd y llong ymaith, a chan na ellid dal ei thrwyn i'r gwynt, bu raid ildio, a chymryd ein gyrru o'i flaen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan gipiwyd y llong, a hi heb allu i wrth‐wynebu y gwynt, ni a roisom i fyny, ac a yrwyd o'i flaen.