Acts 27:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ dringo a wnaethom i long o Adramyttium ar vedr hwyliaw ar dueðae yr Asia, ac a dynasō ymaith, ac Aristarchus or Macedonia o vvlad Thessalonia, oedd gyd a ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dringo i long o Adramatium, ar fedr hwylio i leoedd arforol Asia, aethom allan o’r porthladd, a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thessalonica.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i ni fynd ar long o Adramyttium, a oedd ar fedr hwylio i’r lleoedd ar hyd glannau Asia, codasom hwyl, a chyda ni Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o'r porthladd; a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ni'n mynd ar fwrdd llong o Adramitiwm oedd ar fin mynd i nifer o borthladdoedd yn Asia, a hwylio allan i'r môr. Roedd Aristarchus, o ddinas Thesalonica yn Macedonia, gyda ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethom ar fwrdd llong o Adramytium oedd ar hwylio i'r porthladdoedd ar hyd glannau Asia, a chodi angor. Yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica, gyda ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi myned i long o Adramyttium, yr hon oedd ar fedr hwylio i leoedd ar lanau Asia, ni a aethom i'r môr, a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thessalonica.