Acts 27:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac pryd na welit na’r haul na’r ser dros liaws o ddyddiae, a’ thempestl nyd bychan oedd ar ein gwartha, ys daroedd trosgwyddo oll ’obeith bywyt o dd yarnam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan nad oedd na haul na ser yn ymddangos am lawer o ddyddiau, a thymmestl nid bychan yn pwyso arnom, dygpwyd ymaith o hyny allan bob gobaith o’n bod yn gadwedig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan nad ymddangosai na haul na sêr dros ddyddiau lawer, a thymestl fawr yn gwasgu arnom, o hynny allan dwyn oddiarnom yr oeddid bob gobaith am ein cadw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddi arnom o hynny allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r storm yn para'n ffyrnig am ddyddiau lawer, a doedd dim sôn am haul na'r sêr. Erbyn hynny roedd pawb yn meddwl ei bod hi ar ben arnon ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond heb na haul na sr i'w gweld am ddyddiau lawer, a'r storm fawr yn dal i'n llethu, yr oedd pob gobaith am gael ein hachub bellach yn diflannu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan nad oedd na haul na ser yn ymddangos am ddyddiau lawer, a thymhestl nid bychan yn pwyso arnom, o hyny allan pob gobaith o'n cadw a ddygwyd ymaith.