Acts 27:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr yn ol hir ddirwest, y safodd Paul yn y canol hwy, ac a ðyvot, Ha‐ wyr, chvvi ðylysech wrandaw aruavi a’pheidio a datdot o ywrth Cādi, ac yno y diēgesech rac y sarhaed a’r gollet yma.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hir ddirwest wedi bod, yna y safodd Paul yn eu canol, a dywedodd, Yr oedd rhaid, ddynion, i chwi, gan eich perswadio genyf fi, beidio â myned allan o Creta ac ynnill y sarhad yma a’r golled.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan fu hir eisiau bwyd, yna cododd Paul yn eu canol hwynt a dywedyd: “Wŷr, chwi ddylasech wrando arnaf fi, a pheidio â chychwyn allan o Grete, ac arbed y difrod hwn a’r golled.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a ddylasech wrando arnaf fi, a bod heb ymado o Creta, ac ennill y sarhad yma a'r golled.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd neb ag awydd bwyta ers dyddiau lawer. Yna dyma Paul yn y diwedd yn sefyll o flaen pawb, ac meddai: “Dylech chi fod wedi gwrando arna i a pheidio hwylio o ynys Creta; byddech chi wedi arbed y golled yma i gyd wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, wedi iddynt fod heb fwyd am amser hir, cododd Paul yn eu canol hwy a dweud: "Ddynion, dylasech fod wedi gwrando arnaf fi, a pheidio hwylio o Creta, ac arbed y difrod hwn a'r golled.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi bod lawer o amser heb ymborth, yna y safodd Paul yn eu canol, ac a ddywedodd, O wyr, Yr oedd yn wir yn anghenrheidiol i chwi ufyddhâu i mi, a pheidio morio o Creta, ac felly osgoi y rhyfyg a'r golled hon.