Acts 27:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys safawdd gar fy llaw y nos hon Angel Dew, yr hwn am piae, ac ydd wyf yn ei wasanaethy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr Hwn a’m piau, a’r Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu, yn dywedyd, Nac ofna Paul;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys fe safodd yn fy ymyl neithiwr angel y Duw piau fi a’r hwn yr wyf yn ei addoli,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr hwn a'm piau, a'r hwn yr wyf yn ei addoli,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr — sef y Duw biau fi; yr un dw i'n ei wasanaethu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd neithiwr safodd yn fy ymyl angel y Duw a'm piau, yr hwn yr wyf yn ei addoli,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel y Duw yr Hwn a'm pïau, a'r Hwn yr wyf yn ei wasanaethu,