Acts 27:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, Nac ofna Paul: can ys dir yw dy ðwyn gerbron Caisar: a’ nachaf y rhoddes Dew yty yr oll rei ’sydd yn moriaw gyd a thi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ger bron Cesar y mae rhaid i ti sefyll; ac, wele, rhoddes Duw i ti yr holl rai sy’n morio gyda thi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedyd, ‘Paid ag ofni, Paul; ger bron Cesar y mae’n rhaid i ti sefyll, a dyma Dduw wedi rhoddi i ti y rhai oll sy’n morio gyda thi.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar: ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae'n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw'n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, 'Paid ag ofni, Paul; y mae'n rhaid i ti sefyll gerbron Cesar, a dyma Dduw o'i ras wedi rhoi i ti fywydau pawb o'r rhai sy'n morio gyda thi.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Nac ofna, Paul: rhaid i ti sefyll ger bron Cesar: ac wele, y mae Duw wedi rhoddi i ti yr holl rai sydd yn hwylio gyda thi.