Acts 27:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit paam, ha‐ wyr, byddwch lew‐ eich‐calon, can ys credaf Ddew, mae velly y bydd yn y moð ac y dywetpwyt ymy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, byddwch galonus, ddynion; canys credaf Dduw mai felly y bydd, yn ol y modd y llefarwyd wrthyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly ymwrolwch, wŷr; canys yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, y modd y dywedwyd i mi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, ha wŷr, cymerwch gysur: canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y modd y dywedwyd i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly codwch eich calonnau! Dw i'n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly codwch eich calonnau, ddynion, oherwydd yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, fel y dywedwyd wrthyf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mewn canlyniad, O wyr, ymgalonogwch, canys yr wyf yn credu i Dduw mai felly y bydd yn ol y modd y dywedwyd i mi.