Acts 27:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a sowndiasont, ac ei cawsont yn vcain ’wrhyd o ddyfnder: a’ gwedy myned ychydic pellach, sowndio drachefn a wnaethant a’ ei gael yn pempthec ’wrhyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi plymio, cawsant ugain gwrhyd; ac wedi myned yspaid byr a phlymio drachefn, cawsant bymtheg gwrhyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phlymio a wnaethant a chael ugain gwryd; ac wedi symud ychydig, plymio drachefn a chael pymtheg gwryd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt blymio, hwy a'i cawsant yn ugain gwryd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a'i cawsant yn bymtheg gwryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw'n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi plymio, cawsant ddyfnder o ugain gwryd, ac ymhen ychydig, plymio eilwaith a chael pymtheg gwryd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi plymio hwy a' i cawsant yn ugain gwrhyd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a' i cawsant yn bumtheg gwrhyd.