Acts 27:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy yn ofny rac syrthio mewn ryw leoedd geirwon, bwrw a wnaethant pedair ancor allan o’r parth‐ol‐ir‐llong, gan ddamunaw gwawrio o’r dydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan ofni rhag arleoedd geirwon y’n bwrid, o’r pen ol y bwriasant allan bedair angor, a dymunasant ei myned hi yn ddydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac a hwy’n ofni rhag efallai ein bwrw ar leoedd geirwon, bwriasant bedair angor o’r starn, a dyheu a wnaent am iddi ddyddhau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a hwy'n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o'r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw'n gollwng pedwar angor o'r starn ac yn disgwyl am olau dydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan fod arnynt ofn inni efallai gael ein bwrw ar leoedd creigiog, taflasant bedair angor o'r starn, a deisyf am iddi ddyddio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan ofni rhag dygwydd i ni syrthio ar hyd lleoedd geirwon, hwy a fwriasant allan bedair angor o'r pen ol, ac yr oeddent yn dymuno ei myned hi yn ddydd.