Acts 27:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dydd nesaf y tiriesam yn Sidon: ac Iulius a ymdduc yn ddyngar wrth Paul, ac a roes iðaw ryðdit i vynet at ei gereint, y gahel ced ganthwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrannoeth y troisom i mewn i Tsidon; ac Iwlius yn ymddwyn yn garedigol tuag at Paul, a ganiattaodd iddo fyned at ei gyfeillion a chael ymgeledd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrannoeth tiriasom yn Sidon, ac fe ymddug Iwlius yn garedig tuagat Baul a rhoi cennad iddo i fynd at ei gyfeillion a chael bod dan ofal.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon. A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod wedyn, wedi i ni lanio yn Sidon, dyma Jwlius, yn garedig iawn, yn caniatáu i Paul fynd i weld ei ffrindiau iddyn nhw roi iddo unrhyw beth oedd ei angen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth, cyraeddasom Sidon. Bu Jwlius yn garedig wrth Paul, a rhoi caniatd iddo fynd at ei gyfeillion, iddynt ofalu amdano.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thranoeth ni a ddaethom i Sidon: a Julius a ymddygodd yn ddyngarol tu ag at Paul, ac a ganiataodd iddo i fyned at ei gyfeillion i gael o'u caredigrwydd.