Acts 27:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal ydd oedd y llongwyr yn ceisiaw ffo allan o’r llong, a’ gwedy gellwng bad i wared i’r mor, mal petyssent ar veidr bwrw ancorae allan o’r pen‐blaen ir llong,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong, ac wedi gollwng y bad i wared i’r môr yn rhith mai o’r pen blaen i’r llong yr oeddynt ar fedr rhoddi allan angorau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r morwyr yn ceisio ffoi o’r llong ac wedi gollwng y bâd i’r môr dan esgus mynd i estyn angorau o’r pen blaen,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bad i waered i'r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o'r pen blaen i'r llong,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o'r llong. Roedden nhw'n esgus eu bod nhw'n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw'n ceisio gollwng y cwch glanio i'r môr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreuodd y morwyr geisio dianc o'r llong, a gollwng y bad i'r du373?r, dan esgus mynd i osod angorion o'r pen blaen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r llongwyr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bâd i waered i'r môr, mewn rhith fel ar fedr estyn allan angorau o'r pen blaen,