Acts 27:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y ’syganei Paul wrth y Cannwriat a’r milwyr. A’ ddieithyr ir ei hyn aros yn y llong. ny ellw‐chwi vot yn gadwedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, Oni bydd i’r rhai hyn aros yn y llong, chwychwi ni ellwch fod yn gadwedig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fe ddywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, “Onid erys y rhain yn y llong, ni ellwch chwi gael eich cadw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a'i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, "Os na fydd i'r rhain aros yn y llong, ni allwch chwi gael eich achub."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
dywedodd Paul wrth y Canwriad a'r milwyr, Oni erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.