Acts 27:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y torawdd y milwyr raffae yr bat, ac y gadaosont yddaw ddygwyddaw ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y milwyr a dorrasant raffau’r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna fe dorrodd y milwyr raffau’r bâd, a gadasant iddo gwympo ymaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y torrodd y milwyr raffau'r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r milwyr yn torri'r rhaffau oedd yn dal y cwch glanio a gadael iddi ddisgyn i'r dŵr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe dorrodd y milwyr raffau'r bad, a gadael iddo gwympo ymaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y milwyr a dorasant ymaith raffau y bâd, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.