Acts 27:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy dechrae y bot hi yn ddydd, yr eiriolawdd Paul ar bawp gymeryt bwyt, gan ddywedyt, Llyma ’r pedwerydd dydd ar ddec ydd arosoch, ac y parhaesoch yn ymprydiaw, eb gymeryt ddim llunieth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thra yr oedd y dydd ar fedr dyfod, annogodd Paul bawb o honynt i gymmeryd lluniaeth, gan ddywedyd, Y pedwarydd dydd ar ddeg yw heddyw yr ydych yn disgwyl ac yn parhau heb fwyd, heb gymmeryd dim;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hyd onid oedd hi ar ddyddhau, anogai Paul bawb i gymryd peth lluniaeth, gan ddywedyd, “Erbyn heddiw ers pedwar diwrnod ar ddeg yr ydych yn dal ar eich cythlwng i ddisgwyl, heb gymryd dim.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Paul yn annog pawb i fwyta cyn iddi wawrio. “Dych chi wedi bod yn poeni a heb fwyta dim byd ers pythefnos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd hi ar ddyddio, dechreuodd Paul annog pawb i gymryd bwyd, gan ddweud, "Heddiw yw'r pedwerydd dydd ar ddeg i chwi fod yn disgwyl yn bryderus, ac yn dal heb gymryd tamaid o ddim i'w fwyta.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac hyd nes oedd y dydd ar fedr dyfod, yr oedd Paul yn anog pawb gyda'u gilydd i gyfranogi o luniaeth, gan ddywedyd, Hwn yw y pedwerydd diwrnod ar ddeg yr ydych yn disgwyl ac yn parhau heb fwyd, heb gymeryd dim.