Acts 27:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny yð eiriolaf arnoch gymeryt bwyt: can ys lly’ma eich iechyt: o bleit ny ddygwydd vn blewyn y ar ben yr vn o hanoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan hyny, annogaf chwi i gymmeryd lluniaeth, canys hyn, er eich diogelwch y mae, canys i neb rhyw un o honoch ni bydd blewyn oddi ar ei ben yn golledig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly yr wyf yn dymuno arnoch gymryd peth lluniaeth, oblegid y mae hynny y mhlaid eich achubiaeth; canys i ddim un ohonoch ni chollir blewyn oddiar ei ben.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i'r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n erfyn arnoch chi i gymryd rhywbeth — bydd ei angen arnoch i ddod trwy hyn. Ond gaiff neb niwed.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly yr wyf yn eich annog i gymryd bwyd, oherwydd y mae eich gwaredigaeth yn dibynnu ar hynny; ni chollir blewyn oddi ar ben yr un ohonoch."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny yr wyf yn eich anog i gyfranogi o luniaeth, canys hyn sydd er eich dyogelwch: canys blewyn o ben un o honoch ni chollir.