Acts 27:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac pan ytoedd hi ddydd, nid adnabuont wy yr tir, ac hwy ganvuesōt ryw ebach a’ thorlan iddaw, ir lle y meðyliesant (a’s gallent) wthio yr llong y mewn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan aeth hi yn ddydd, y tir nid adwaenent; ond rhyw gilfach a ganfuant, i’r hon yr oedd traeth, yr hwn yr ymgynghorasant a allent wthio’r llong arno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth hi yn ddydd, nid adwaenent y tir, ond canfyddent ryw gilfach ac iddi draeth, ac ymgynghori a allent ddwyn y llong i mewn iddi yn ddiogel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi; i'r hon y cyngorasant, os gallent, wthio'r llong iddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth hi'n olau dydd, doedd neb yn nabod y tir o'n blaenau. Roedd bae gyda traeth o dywod i'w weld a dyma nhw'n penderfynu ceisio cael y llong i dirio ar y traeth hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth hi'n ddydd, nid oeddent yn adnabod y tir, ond gwelsant gilfach ac iddi draeth, a phenderfynwyd gyrru'r llong i'r lan yno, os oedd modd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan aeth hi yn ddydd nid oeddent yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a thraeth iddi, i'r hon y cynghorasant, os gallent, wthio y llong.