Acts 27:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yddwynt dderchafy yr ancorae, y maddeuesont y llong ir mor, ac y gellyngesont yn rhydd rwymeu y llyw, ac y dyrchafasont y lliein‐hwyl parth ar gwynt, ac a dynnasont ir ’lann.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r angorau gan eu bwrw hwynt ymaith, a adawsant yn y môr, ar yr un pryd yn gollwng rhwymau’r llywiau; ac wedi codi’r hwyl-flaen i’r gwynt, ceisiasant y traeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thorri ymaith yr angorau a wnaethant, a’u gadael yn y môr; yr un pryd datod cyplau’r llywiau, a chodi’r hwyl flaen i’r awel, a chyfeirio tua’r traeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt godi'r angorau, hwy a ymollyngasant i'r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i'r gwynt, ac a geisiasant y lan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n torri'r angorau'n rhydd a'u gadael yn y môr, a'r un pryd yn datod y rhaffau oedd yn dal y llyw. Wedyn dyma nhw'n agor yr hwyl flaen i ddal y gwynt ac anelu am y traeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Torasant yr angorion i ffwrdd, a'u gadael yn y mr. Yr un pryd, datodwyd cyplau'r llywiau, a chodi'r hwyl flaen i'r awel, a chyfeirio tua'r traeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan fwrw ymaith yr angorau, hwy a'u gadawsant yn y môr, gan ollwng ar yr un pryd rwymau y llywiau: A chan godi y flaenhwyl i'r awel, hwy a gyfeiriasant at y traeth.