Acts 27:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy dygwydo o hawynt mewn lle dauvor‐ gyhvvrdd, y gwthiasont y llong y mewn: a’r pen‐blaen‐iddei a lynawdd eb allu ei sylfyd, a’r penn‐ol a ymoascarawdd gan nerth y tonnae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi syrthio i le deufor-gyfarfod, gyrrasant y llong i’r traeth; a’r pen blaen iddi a darawodd ac a arhosodd yn ddiysgog; ond y pen ol a ymddattodai gan nerth y tonnau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond wedi iddynt syrthio ar le rhwng dau fôr gyrasant y llong i dir, ac fe lynodd y pen blaen, a safodd, yn ddiysgog, ond y starn oedd yn ymddatod dan y grym.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a'r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r llong yn taro banc tywod, ac roedd tu blaen y llong yn hollol sownd ac yn gwrthod dod y rhydd. A dyma'r starn yn dechrau dryllio wrth i'r tonnau gwyllt hyrddio yn erbyn y llong.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond daliwyd hwy gan ddeuforgyfarfod, a gyrasant y llong i dir. Glynodd y pen blaen, a sefyll yn ddiysgog, ond dechreuodd y starn ymddatod dan rym y tonnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond wedi syrthio i le deufôr‐gyfarfod, hwy a redasant y llong i dir; a'r pen blaen a darawodd ac a arosodd yn ddiysgog, ond y pen ol a ymddatodai gan ruthr y tonau.