Acts 27:43 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y Cannwriat yn ewyllysio cadw Paul, ei goharddawdd ywrth y cygcor hvvn, ac a ’orchymynodd ir ei vedrent nofiaw, ymvwrw ir mor yn gyntaf, a’ myned allan ir tir:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond y canwriad, yn chwennych cadw Paul, a’u rhwystrodd rhag eu hamcan, ac a archodd i’r rhai a fedrent nofio, ymfwrw i’r môr, a myned yn gyntaf i’r tir;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gan yr ewyllysiai’r canwriad achub Paul, fe rwystrodd iddynt eu dymuniad, a gorchmynnodd i’r rhai a fedrai nofio ymdaflu allan yn gyntaf,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a'r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i'r môr, a myned allan i'r tir:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond rhwystrodd y pennaeth nhw rhag gwneud hynny am ei fod eisiau i Paul gael byw. Wedyn rhoddodd orchymyn i'r rhai oedd yn gallu nofio i neidio i'r dŵr a cheisio cyrraedd y lan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gan fod y canwriad yn awyddus i achub Paul, rhwystrodd hwy rhag cyflawni eu bwriad, a gorchmynnodd i'r rhai a fedrai nofio neidio yn gyntaf oddi ar y llong, a chyrraedd y tir,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y Canwriad, yn dymuno cadw Paul, a'u rhwystrodd yn eu dymuniad; ac a archodd i bawb a fedrai nofio ymfwrw i'r môr, a myned yn gyntaf i'r tir;