Acts 27:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac yno cahel or Cannwriat long o Alexandria, yn hwyliaw ir Ital, ac a’n gosod es ynthei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yno wedi cael o’r canwriad long o Alecsandria, yn hwylio i’r Ital, gosododd ni ynddi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yno fe gafodd y canwriad long o Alecsandria, a oedd ar ei thaith i’r Eidal, ac fe’n gosododd ni arni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yno y canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i'r Ital, a'n gosododd ni ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yno daeth Jwlius o hyd i long o Alecsandria oedd ar ei ffordd i'r Eidal, a'n rhoi ni ar fwrdd honno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yno cafodd y canwriad long o Alexandria oedd yn hwylio i'r Eidal, a gosododd ni arni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yno y Canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i'r Ital, a'n gosododd ni ynddi.