Acts 27:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy y ni hwyliaw yn llusg enaidd dros lawer o ddyddiae, ac o vraidd dyvot gar llaw Gnidum, can vot y gwynt in lluddiaw, hwylio a wnaetham yn‐goror Candi, gar llaw Salmone,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llawer o ddyddiau yr hwyliasom yn anniben, a phrin y daethom ar gyfer Cnidus am na adawai y gwynt i ni, a hwyliasom dan Creta,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am gryn ddyddiau araf hwylio yr oeddem, a braidd y deuthom ar gyfer Cnidus, ac am na adai’r gwynt inni, hwyliasom yng nghysgod Crete ar gyfer Salmône,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus, am na adawai'r gwynt i ni, ni a hwyliasom islaw Creta, ar gyfer Salmone.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hi'n fordaith araf iawn am ddyddiau lawer a cawson ni drafferth mawr i gyrraedd Cnidus. Ond roedd y gwynt yn rhy gryf i ni fynd ddim pellach, a dyma ni'n cael ein gorfodi i droi i'r de tua Creta, a hwylio yng nghysgod yr ynys o gwmpas pentir Salmone.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Buom am ddyddiau lawer yn hwylio'n araf, a chael trafferth i gyrraedd i ymyl Cnidus. Gan fod y gwynt yn dal i'n rhwystro, hwyliasom i gysgod Creta gyferbyn Salmone,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi hwylio yn araf lawer o ddyddiau, a dyfod trwy anhawsder gyferbyn a Cnidus, am na adawai y gwynt i ni, ni a hwyliasom dan Creta gyferbyn a Salmone;