Acts 27:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac o vreidd yr hwyliesam hebddei, ac a ddaetham i ryw le elwit y Porthlaðoeð prydferth, ac yn gyfagos iddaw ydd oedd dinas Lasaia.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ar gyfer Salome; ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddo, daethom i ryw le a elwir Caloi Limenes, agos at yr hwn yr oedd y ddinas Lasea.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a braidd trwy hwylio gyda’r tir y deuthom i ryw le a elwid Porthladdoedd Teg, a cherllaw iddo yr oedd dinas Lasea.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le a elwir, Y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cawson ni gryn drafferth eto i ddilyn arfordir deheuol yr ynys, ond llwyddo o'r diwedd i gyrraedd porthladd yr Hafan Deg sydd wrth ymyl tref o'r enw Lasaia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a thrwy gadw gyda'r tir, daethom chryn drafferth i le a elwid Porthladdoedd Teg, nid nepell o dref Lasaia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi morio heibio iddi gydag anhawsder, daethom i ryw le a elwir Porthladdoedd Prydferth, i'r hwn yr oedd dinas Lasea yn agos.