Acts 28:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar ben y trimis ir aetham ir mor mewn llong o Alexandria, yr hon y vesei yn gaeafy yn yr ynys a’i harwyð hi oeð Castor ac Pollux.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi tri mis aethom ymaith mewn llong a auafasai yn yr ynys, un o Alexandria, a’i harwydd Dioscwroi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi tri mis cychwynasom ymaith mewn llong a aeafasai yn yr ynys, llong o Alecsandria, a’r Dioscwri yn arwydd arni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi tri mis, yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aeafasai yn yr ynys; a'i harwydd hi oedd Castor a Pholux.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth tri mis heibio cyn i ni hwylio o'r ynys. Aethon ar long oedd wedi gaeafu yno — llong o Alecsandria gyda delwau o'r ‛Efeilliaid dwyfol‛ (Castor a Polwcs) ar ei thu blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tri mis yn ddiweddarach, hwyliasom i ffwrdd mewn llong o Alexandria oedd wedi bwrw'r gaeaf yn yr ynys, a'r Efeilliaid Nefol yn arwydd arni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi tri mis ni a hwyliasom mewn llong yn perthyn i Alexandria, yr hon oedd wedi gauafu yn yr ynys, arwydd yr hon ydoedd Yr Efylliaid.