Acts 28:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o dd yno, pan glybu yr broder o dd ywrthym, y daethant y gyfarvot a ni yd ym‐Marchnat Appius, a’r Tair tavarn, yr ei pan welawdd Paul, diol vv ch i Ddeo a wnaeth, a bot yn hyderus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac oddi yno, y brodyr, wedi clywed am danom, a ddaethant i’n cyfarfod hyd Appii Fforum a Tres Tabernæ; a phan y’u gwelodd, Paul a ddiolchodd i Dduw ac a gymmerth galon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i’r brodyr oddiyno glywed amdanom, deuthant i gyfarfod â ni hyd Farchnad Appius a’r Tair Tafarn; a phan welodd Paul hwynt, fe ddiolchodd i Dduw a chymerth galon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oddi yno, pan glybu'r brodyr amdanom, hwy a ddaethant i'n cyfarfod ni hyd Appii‐fforum, a'r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd gysur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y Cristnogion yno wedi clywed ein bod ni'n dod, ac roedd rhai wedi teithio i lawr cyn belled â Marchnad Apius i'n cyfarfod ni, ac eraill at y Tair Tafarn. Roedd gweld y bobl yma'n galondid mawr i Paul, a diolchodd i Dduw am fod mor ffyddlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd y credinwyr yno amdanom, daethant allan cyn belled Marchnad Apius a'r Tair Tafarn i'n cyfarfod. Pan welodd Paul hwy, fe ddiolchodd i Dduw, ac ymwrolodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac oddiyno y brodyr, wedi clywed am danom, a ddaethant i'n cyfarfod ni mor bell a Marchnad Appius a'r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd galon.