Acts 28:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vel’y wedy ein dyvot i Ruuein, y rhoðes y Cāwriat y carcharoriou at y Captaen‐goruchaf: eithyr Paul y adwyt y drigo vvrtho ehun y gyda milwr oedd y ei gadw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ddaethom i Rhufain, caniattawyd i Paul aros wrtho ei hun, ynghyda’r milwr oedd yn ei gadw ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan aethom i mewn i Rufain, fe ganiatawyd i Baul drigo wrtho’i hun gyda’r milwr oedd yn ei wylied.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pan ddaethom i Rufain, y canwriad a roddes y carcharorion at ben‐capten y llu; eithr cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn Rhufain cafodd Paul ganiatâd i fyw yn ei lety ei hun, ond fod milwr yno i'w warchod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan aethom i mewn i Rufain fe ganiatawyd i Paul letya ar ei ben ei hun, gyda'r milwr oedd yn ei warchod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaethom i Rufain, caniatawyd i Paul aros wrtho ei hun gyda y milwr oedd yn ei gadw ef.