Acts 28:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar ben y tridie, y galwoð Paul bēnaethieit yr Iuðeon yn‐cyt: Ac wedy ei dyvot, y dywedawdd wrthwynt, Ha‐ wyr vroder, cyd na wneythym ddim yn erbyn y popul, n ai Cyfreithiae yrtadae eto, im rroðwyt i yn garcharawr o Gaerusalem i ðwylo y Ruueinwyr,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A digwyddodd, ar ol tridiau, alw o hono ynghyd y rhai oedd bennaf o’r Iwddewon: ac wedi dyfod o honynt ynghyd, dywedodd wrthynt, Myfi, frodyr, heb wneuthur o honof ddim yn erbyn y bobl na defodau ein tadau, yn garcharor y’m rhoddwyd o Ierwshalem i ddwylaw y Rhufeinwyr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar ôl tridiau y galwodd ynghyd y rhai a oedd yno’n flaenaf o’r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd fe ddywedai wrthynt, “Er na wneuthum i, frodyr, ddim yn erbyn y Bobl na defodau’r tadau, fe’m traddodwyd yn garcharor o Gaersalem i ddwylo’r Rhufeinwyr; a hwythau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A digwyddodd, ar ôl tridiau, alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, eto mi a roddwyd yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo'r Rhufeinwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dri diwrnod ar ôl cyrraedd Rhufain dyma Paul yn galw'r arweinwyr Iddewig yno at ei gilydd. “Frodyr,” meddai wrthyn nhw: “er na wnes i ddim byd yn erbyn ein pobl, na dim sy'n groes i arferion ein hynafiaid, ces fy arestio yn Jerwsalem ac yna fy nhrosglwyddo i ddwylo'r Rhufeiniaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhen tridiau, galwodd Paul ynghyd yr arweinwyr ymysg yr Iddewon. Wedi iddynt ddod at ei gilydd, dywedodd wrthynt, "Er nad wyf fi, frodyr, wedi gwneud dim yn erbyn fy mhobl na defodau'r hynafiaid, cefais fy nhraddodi yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo'r Rhufeiniaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dygwyddodd, ar ol tridiau, alw o hono ef ynghyd ato ei hun y rhai oedd benaf o'r Iuddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, O wyr frodyr, heb wneuthur o honof ddim yn erbyn y Bobl na defodau ein Tadau, eto yn garcharor y'm rhoddwyd o Jerusalem i ddwylaw y Rhufeinwyr: