Acts 28:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y r ei wedy darvot yð wynt vy holi, a vynesent vy‐gellwng ymaith, can nad oedd ðim achos angae ynof.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai, wedi fy holi, a fynnasant fy ngollwng yn rhydd, gan nad oedd dim achos angau ynof.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
wedi iddynt fy holi, ewyllysient fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd ddim achos marwolaeth ynof.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai, wedi darfod fy holi, a fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angau ynof.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r llys yn fy nghael i'n ddieuog o unrhyw drosedd oedd yn haeddu marwolaeth, ac roedden nhw am fy rhyddhau i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent hwy, wedi iddynt fy holi, yn dymuno fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd dim rheswm dros fy rhoi i farwolaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y cyfryw, wedi iddynt fy holi, a ewyllysient fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd dim achos angau ynof.