Acts 28:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Barbarieit a ðangosesant yni hawðgarwch nid‐bychan: can ys wy a gynneuson dan, ac an d erbyniesant y gyd oll, o bleit y gawat gynnyrchiol, ac o bleit yr oervel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r barbariaid a ddangosasant i ni ddyngarwch nid cyffredin; canys cynneuasant dân, a derbyniasant yr oll o honom, o herwydd y gwlaw cynrychiol, ac o herwydd yr oerfel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y brodorion i ni garedigrwydd anghyffredin; cynnau tân a wnaethant, a’n cymell ni ato oherwydd y glaw a’n goddiweddodd ac oherwydd yr oerfel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd‐dra nid bychan: oblegid hwy a gyneuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol, ac oherwydd yr oerfel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl yr ynys yn hynod o garedig. Dyma nhw'n rhoi croeso i ni ac yn gwneud tân, am ei bod hi wedi dechrau glawio'n drwm, ac roedd hi'n oer.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dangosodd y brodorion garedigrwydd anghyffredin tuag atom. Cyneuasant goelcerth, a'n croesawu ni bawb at y tn, oherwydd yr oedd yn dechrau glawio, ac yn oer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r barbariaid a ddangosasant i ni ddyngarwch anghyffredin: canys cyneuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll yn roesawgar, o herwydd y gwlaw oedd yn disgyn ac o herwydd yr oerfel.