Acts 28:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac or achos hyn y galweis am danoch, y eich gwelet, ac y gyd gympwyl’ a chvvi: er mvvyn gobaith yr Israel im cylchynir a’r catwin hon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Am yr achos hwn, gan hyny, y deisyfiais arnoch weled ac ymddiddan â mi, canys o achos gobaith Israel yr wyf a’r gadwyn hon am danaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O achos hyn, ynteu, y’ch cymhellais chwi i ymweled ac ymddiddan â mi; canys oherwydd gobaith Israel y mae gennyf y gadwyn hon amdanaf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi, i'ch gweled, ac i ymddiddan â chwi: canys o achos gobaith Israel y'm rhwymwyd i â'r gadwyn hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnais am gael eich gweld chi er mwyn esbonio hyn i gyd i chi. Y rheswm pam mae'r gadwyn yma arna i ydy am fy mod i yn credu yn y Meseia, Gobaith Israel!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna'r rheswm, ynteu, fy mod wedi gofyn am eich gweld a chael ymddiddan chwi; oherwydd o achos gobaith Israel y mae gennyf y gadwyn hon amdanaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am yr achos hwn gan hyny y gwahoddais chwi, i'ch gweled ac i ymddyddan a chwi; canys o herwydd Gobaith Israel yr wyf fi wedi fy rhwymo â'r gadwyn hon.