Acts 28:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy the a ðywed e sōt wrtho. Ny wnaetham ni na chael l’ythyre o Iuðaia am danat, na dyvot neb o’r broder a venegoð nei a ddyvot dim anvad am danat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ddywedasant wrtho, Nyni, na llythyrau am danat ni chawsom o Iwdea, na neb o’r brodyr wedi dyfod yma, a fynegodd nac a lefarodd ddim drwg am danat.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedasant hwythau wrtho, “Ni dderbyniasom ddim llythyrau amdanat ti o Iwdea, ac ni ddaeth neb o’r brodyr yma i fynegi na llefaru dim sy ddrwg amdanat ti.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n ei ateb, “Dŷn ni ddim wedi derbyn unrhyw lythyrau o Jwdea amdanat ti, a does neb o'n pobl ni wedi dod yma i sôn am y peth na dweud dim byd drwg amdanat ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant hwythau wrtho, "Nid ydym wedi derbyn unrhyw lythyr amdanat ti o Jwdea, ac ni ddaeth neb o'n cydIddewon yma chwaith i adrodd na llefaru dim drwg amdanat ti.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Judea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddiyno ddim drwg am danat di.