Acts 28:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ni wyllysē glywet genyt’ pa beth a synny: can ys am y sect hon, y mae yn wybodedic genym, vot ym‐pop lle yn ei gwrthðywedyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond dymunem glywed genyt ti pa beth yw dy feddwl, canys am y sect hon, hyspys yw i ni mai ymhob man y dywedir yn ei herbyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond iawn y tybiwn glywed gennyt ti beth yr wyt yn ei synied, oblegid am y sect hon hysbys yw i ni y dywedir yn ei herbyn ym mhobman.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied: oblegid am y sect hon, y mae yn hysbys i ni fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dŷn ni eisiau clywed beth rwyt yn ei gredu. Dŷn ni'n gwybod fod pobl ym mhobman yn siarad yn erbyn y sect yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe garem glywed gennyt ti beth yw dy ddaliadau; oherwydd fe wyddom ni am y sect hon, ei bod yn cael ei gwrthwynebu ym mhobman."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr ydym ni yn ei hystyried yn iawn i glywed genyt ti beth yr ydwyt yn ei synied: canys yn wir am y sect hon, y mae yn hyspys i ni fod yn mhob man ddywedyd yn ei herbyn.