Acts 28:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy gosot die rnot iddo, e daeth llawer edd attaw ir hospyty, i ba rei yd esponiodd ac testolaethawdd ef deyrnas Dew, ac a precethawð yddwynt am yr Iesu ac o Ddeddyf Moysen ac or Prophwyti, o’r borae yd ’osper.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gosod o honynt ddiwrnod iddo, daethant atto i’w letty, llawer o honynt; i’r rhai yr esponiodd efe, gan dystiolaethu teyrnas Dduw, a’u perswadio ynghylch yr Iesu, allan o Gyfraith Mosheh, a’r Prophwydi, o’r bore hyd yr hwyr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phennu diwrnod a wnaethant iddo, a deuthant ato i’w lety yn dyrfa, ac iddynt yr esboniai, gan ddwys dystiolaethu am deyrnas Dduw, a cheisio eu perswadio ynghylch yr Iesu allan o Gyfraith Moesen ac o’r Proffwydi o fore tan hwyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i'w lety; i'r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a'r proffwydi, o'r bore hyd yr hwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n trefnu diwrnod i gyfarfod â Paul. Daeth llawer iawn mwy ohonyn nhw yno y diwrnod hwnnw. Buodd Paul wrthi drwy'r dydd, o fore tan nos, yn esbonio beth oedd yn ei gredu. Roedd yn eu dysgu nhw am deyrnasiad Dduw ac yn defnyddio Cyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi i geisio eu cael nhw i weld mai Iesu oedd y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Penasant ddiwrnod iddo, a daethant ato i'w lety, nifer mawr ohonynt. O fore tan nos, bu yntau yn esbonio iddynt, gan dystiolaethu am deyrnas Dduw, a mynd ati i'w hargyhoeddi ynghylch Iesu ar sail Cyfraith Moses a'r proffwydi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt drefnu diwrnod iddo, daeth llawer o honynt ato i'w lety; i'r rhai yr eglurodd efe gan dystiolaethu Teyrnas Dduw, a'u hargyhoeddi ynghylch yr Iesu, allan o Gyfraith Moses, ac o'r Prophwydi, o'r bore hyd yr hwyr.