Acts 28:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei a gydsynient a’r y pethae, ry ðywed e sit, a’r ei ny chredent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhai a gredasant y pethau a ddywedwyd a rhai ni chredasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhai a gredai yr hyn a ddywedid, a rhai ni chredent;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai a gredasant i'r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Llwyddodd i argyhoeddi rhai ohonyn nhw, ond roedd y lleill yn gwrthod credu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd rhai yn credu ei eiriau, ac eraill ddim yn credu;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai yn wir a argyhoeddwyd gan y pethau a ddywedwyd, a rhai ni chredasant.