Acts 28:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phryt nad oedden yn cydcordio yn ei plith ei hunain, ymadael a wnaethant, gwedy dywedyt o Paul vn gair, nid amgen, Da y llavarawdd yr Yspryt glan trwy Esaias y Prophet wrth ein tadae,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn anghyttun â’u gilydd, yr ymadawsant, wedi dywedyd o Paul un gair, sef, Da y bu i’r Yspryd Glân lefaru, trwy Eshaiah y prophwyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac a hwy mewn anghytgord â’i gilydd, ymadael yr oeddynt, a Phaul yn dywedyd un gair: “Gwych y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Esaias y proffwyd wrth eich tadau chwi, gan ddywedyd:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a hwy yn anghytûn â'i gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd un gair, mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Buon nhw'n dadlau gyda'i gilydd, a dyma nhw'n dechrau gadael ar ôl i Paul ddweud hyn i gloi: “Roedd yr Ysbryd Glân yn dweud y gwir wrth eich hynafiaid chi wrth siarad drwy'r proffwyd Eseia:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yr oeddent yn dechrau ymwahanu, mewn anghytundeb 'i gilydd, pan ddywedodd Paul un gair ymhellach: "Da y llefarodd yr Ysbryd Gln, trwy'r proffwyd Eseia, wrth eich hynafiaid chwi, gan ddweud:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac a hwy yn anghytun a'u gilydd, hwy a ymadawsant, a Phaul yn dywedyd un gair, Da y llefarodd yr Yspryd Glân trwy Esaiah y Prophwyd wrth eich Tadau,