Acts 28:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, Cerdd a at y popul hyn, a’ dyweit, Yn clywet y clywch, ac ny ðeallwch, ac yn gwelet y gwelwch, ac ny chanvyddwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wrth eich tadau, gan ddywedyd, “Dos at y bobl hyn a dywaid, A chlyw y clywch, ond ni ddeallwch; A chan weled y gwelwch ac ni chanfyddwch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dos at y bobl yma a dywed, Clywch, ie, clywch, ac ni ddeëllwch ddim, a gwelwch, ie, gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Dos at y bobl yma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Dos at y bobl yma a dweud, “Gwrandwch yn astud, ond fyddwch chi ddim yn deall; Edrychwch yn ofalus, ond fyddwch chi ddim yn dirnad.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Dos at y bobl yma a dywed, "Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim; er edrych ac edrych, ni welwch ddim."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Dos at y Bobl hyn, a dywed, Trwy glywed y clywch, ac ni ddeallwch o gwbl; A chan weled y gwelwch, ac ni chanfyddwch o gwbl: