Acts 28:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy casclu o Paul talm o vriwyð, a’ ei dody ar y tan, e ddaeth g wiper allan o’r gwres, ac a ruthrawð y ei law.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi casglu o Paul ryw faint o friw-wydd, ac eu dodi ar y tân, gwyber wedi dyfod allan o achos y gwres, a lynodd wrth ei law ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe gasglodd Paul beth wmbredd o danwydd, ac wedi iddo’u dodi ar y tân fe ddaeth gwiber allan gan y gwres, a glynu wrth ei law ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd, a'u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o'r gwres, ac a lynodd wrth ei law ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Paul wedi casglu llwyth o frigau mân, ac wrth iddo eu gosod nhw ar y tân, dyma neidr wenwynig oedd yn dianc o'r gwres yn glynu wrth ei law.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Casglodd Paul beth wmbredd o danwydd, ac wedi iddo'u rhoi ar y tn, daeth gwiber allan o'r gwres, a glynu wrth ei law.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond wedi i Paul gasglu ynghyd rhyw lawer o friw‐wydd, a'u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o achos y gwres, ac a lynodd wrth ei law ef.