Acts 28:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welawdd y Barbarieit y bwystvil yn‐crog wrth ei law, y dywedent yn ei plith ehunain, Yn sicr lleiddiat yw’r dyn hwn, yr hwn cyd diangawdd or mor, ny’s gad diale dd i vyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law, dywedasant wrth eu gilydd, Yn sicr llofrudd yw y dyn hwn, yr hwn, wedi ei achub o’r môr, cyfiawnder ni adawodd iddo fyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd y brodorion yr anifail ynghrog wrth ei law ef, dywedent wrth ei gilydd, “Yn sicr llofrudd yw’r dyn yma, ac er ei ddyfod yn ddiogel o’r môr ni adodd Cyfiawnder iddo fyw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Yn sicr llawruddiog yw'r dyn hwn, yr hwn, er ei ddianc o'r môr, ni adawodd dialedd iddo fyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd pobl yr ynys y neidr yn hongian oddi ar ei law medden nhw, “Mae'n rhaid fod y dyn yna'n llofrudd! Dydy'r dduwies Cyfiawnder ddim am adael iddo fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y brodorion y neidr ynghrog wrth ei law, meddent wrth ei gilydd, "Llofrudd, yn sicr, yw'r dyn yma, ac er ei fod wedi dianc yn ddiogel o'r mr nid yw'r dduwies Cyfiawnder wedi gadael iddo fyw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law, hwy a ddywedasant y naill wrth y llall, Yn ddios llofrudd yw y dyn hwn, yr hwn, er ei ddyfod yn ddyogel o'r môr, Cyfiawnder ni adawodd iddo fyw.