Acts 28:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr wynt vvy a dd ysgwilient gantaw am chwyddo, n ai dygwyddo y lawr yn ddysyvyt yn varw: ac wynt yn hir o amser yn edrych, ac eb welet dim ancyflwr yn dygwyð iddaw, troi ei meddwl a wnaethant, a’ dywedyt, Mae Dew yt oedd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ddisgwylient ei fod ar fedr chwyddo neu syrthio i lawr yn ddisymmwth yn farw; a phan am amser hir y disgwylient, ac y gwelent nad oedd dim niweid yn digwydd iddo, gan newid eu meddwl, dywedasant mai duw oedd efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Disgwylient hwythau iddo ddechrau chwyddo neu syrthio’n sydyn yn gorff; ond a hwy’n hir ddisgwyl ac yn gweled nad oedd dim neilltuol yn digwydd iddo, newid eu meddwl a wnaethant, a dywedyd ei fod yn dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y bobl yn disgwyl iddo chwyddo neu ddisgyn yn farw'n sydyn. Ond aeth amser hir heibio a dim byd yn digwydd iddo, felly dyma nhw'n dod i'r casgliad fod Paul yn dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yr oeddent hwy'n disgwyl iddo ddechrau chwyddo, neu syrthio'n farw yn sydyn. Ar l iddynt ddisgwyl yn hir, a gweld nad oedd dim anghyffredin yn digwydd iddo, newidiasant eu meddwl a dechrau dweud mai duw ydoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr oeddent hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo neu syrthio i lawr yn ddisymwth yn farw: eithr pan oeddent yn hir‐ddisgwyl, ac yn gweled nad oedd dim niwed yn dygwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe.