Acts 28:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn y cyf le oedd hyny, ydd oeð tiredd i bennaeth yr ynys, (aei enw oedd ef Publius) yr hwn an erbyniawdd, ac ’an lletyawdd dros dri‐die yn anwyl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn agos i’r fan honno yr oedd tiroedd yn perthyn i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd, a thridiau y llettyodd ni yn garedig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y gymdogaeth honno yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a’i enw Poplius, yr hwn a’n derbyniodd ni ac a’n lletyodd dridiau yn gymwynasgar.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a'i enw Publius, yr hwn a'n derbyniodd ni, ac a'n lletyodd dridiau yn garedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ystâd gyfagos yn perthyn i brif swyddog Rhufain ar yr ynys — dyn o'r enw Pobliws. Rhoddodd groeso mawr i ni, a dyma ni'n aros yn ei gartref am dridiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yng nghyffiniau'r lle hwnnw, yr oedd tiroedd gan u373?r blaenaf yr ynys, un o'r enw Poplius. Derbyniodd hwn ni, a'n lletya yn gyfeillgar am dridiau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac o gylch y lle hwnw yr oedd tiroedd yn perthyn i Benaeth yr ynys, o'r enw Publius, yr hwn a'n derbyniodd ni, ac a'n lletyodd dridiau yn garedig.