Acts 28:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
At e dderyw, bot tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd, a’ darymred gwaedlyt; ac attaw ydd aeth Paul y mewn, a’ gwedy iddo weddiaw, y dodes ei ddwylo arnaw, ac yr iachaodd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A digwyddodd fod tad Publius, wedi ei ddala gan gryd a gwaedlif, yn cadw ei wely; at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, gan ddodi ei ddwylaw arno, yr iachaodd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd bod tad Poplius yn gorwedd yn glaf, yn dioddef gan byliau o gryd a chan waedlif; ac fe ddaeth Paul ato, ac wedi iddo weddïo a dodi ei ddwylo arno fe’i hiachaodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A digwyddodd, fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif: at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a'i hiachaodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd tad Pobliws yn glaf yn ei wely, yn dioddef pyliau o wres uchel a dysentri. Aeth Paul i'w weld, ac ar ôl gweddïo rhoddodd ei ddwylo arno a'i iacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd tad Poplius yn digwydd bod yn gorwedd yn glaf, yn dioddef gan byliau o dwymyn a chan ddisentri. Aeth Paul i mewn ato, a chan weddo a rhoi ei ddwylo arno, fe'i hiachaodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dygwyddodd fod tâd Publius yn gorwedd yn glaf o dwymyn a gwaedlif: at yr hwn yr aeth Paul i mewn ac y gweddïodd; a chan ddodi ei ddwylaw arno efe a'i hiachâodd.