Acts 28:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy gwneythyd hynn, yr‐eill hefyt or ynys, ar oedd hein t iae arnynt, a ðaeth attaw, ac eu iachawyt:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn wedi digwydd, y lleill hefyd, y rhai yn yr ynys oedd a chanddynt heintiau, a ddaethant atto ac a iachawyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi gwneuthur hyn y lleill hefyd oedd dan afiechyd yn yr ynys a ddeuai ato, ac fe’u meddyginiaethid; hwythau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant ato, ac a iachawyd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i hyn ddigwydd dyma lawer o bobl eraill oedd yn glaf ar yr ynys yn dod ato ac yn cael eu gwella.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i hyn ddigwydd, daeth y lleill yn yr ynys oedd dan afiechyd ato hefyd, a chael eu hiachu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi i hyn gymeryd lle, y lleill hefyd, y rhai yn yr ynys oedd a chlefydau arnynt, a ddaethant ato ac a wellhawyd: